Mae Miscanthus yn laswellt trofannol lluosflwydd sy’n tyfu’n gyflym sydd hefyd yn addas iawn i hinsawdd dymherus. Mae’n gnwd ynni delfrydol i’r Deyrnas Unedig gan ei fod yn tyfu’n gyflym, gellir ei dyfu ar dir o safon isel ac mae’r mewnbwn maetholion yn gymharol isel. Tyfa’r amrywiaeth fasnachol bresennol 3-4 metr o uchder bob blwyddyn, ac mae’n cael ei gadael i sefyll dros y gaeaf. Caiff ei gynaeafu drwy ei dorri i lawr ychydig yn uwch na lefel y ddaear yn y gwanwyn, cyn i egin newydd ddod i’r golwg. Yna caiff y biomas ei losgi mewn gorsafoedd pŵer llosgi gwellt i gynhyrchu trydan, neu ei brosesu’n amrywiaeth eang o gemegion neu ddeunyddiau adeiladu bio-seiliedig. Gellir tyfu helyg mewn systemau coedlannau cylchdro byr. Caiff ei blannu fel ffyn, a’i dorri ar ôl y flwyddyn gyntaf o dwf, ac ar ôl hynny mae’n tyfu’n ôl â choesynnau lluosog. Yna caiff y coesynnau hyn eu cynaeafu ar gylchoedd 2-4 blynedd, cyn cael eu torri’n fân fel sglodion a’u defnyddio mewn gorsafoedd pŵer. Yn debyg iawn i Miscanthus, caiff ei dyfu ar dir o safon isel a’r mewnbwn o ran maetholion yn isel. Yn gyffredinol, plannir cymysgedd o amrywogaethau.
Gall cnydau ynni biomas eraill (fel poplys a dyfir mewn coedlannau cylchdro byr, chwipwellt [switchgrass] a phefrwellt [reed canary grass]) chwarae rhan hefyd, ond nid ydynt eto’n cael eu tyfu’n eang yn y DU.