Effeithiau amgylcheddol ehangach

Mae goresgyn newid yn yr hinsawdd yn her enfawr, ond mae’n bwysig deall yr effeithiau amgylcheddol ehangach, yn gadarnhaol ac yn negyddol, a allai ddeillio o blannu mwy o gnydau biomas lluosflwydd. Mae’r ffaith nad yw pridd yn cael ei adael yn foel dros y gaeaf, a gwreiddiau dwfn yr helyg a’r miscanthus yn golygu y gall y cnydau leihau’r risg o erydu pridd. Mae llai o aflonyddu ar y pridd o’i gymharu â thir âr hefyd yn golygu eu bod yn dda ar gyfer iechyd pridd. Byddwn yn ymchwilio i’r risgiau a’r cyfleoedd y gall cnydau biomas lluosflwydd esgor arnynt ar gyfer gwahanol ardaloedd yn y DU, er mwyn gallu deall yn well yr effeithiau ehangach ar amrywiaeth o wasanaethau ecosystem a fyddai’n deillio o newid defnydd tir i’r cnydau hyn.