Integreiddio systemau

Mae ffactorau fel addasrwydd y tir a’r hinsawdd ac agosrwydd at farchnadoedd terfynol yn pennu ymhle rydym yn plannu cnydau biomas lluosflwydd. Ni ddylem blannu cnydau biomas mewn mawn dwfn, ar dir sydd eisoes â gwerth bioamrywiaeth uchel, neu ar bridd sy’n llawer mwy addas ar gyfer tyfu cnydau bwyd. Mae angen inni hefyd gael cydbwysedd rhwng y gystadleuaeth am ddefnydd tir ar draws amaethyddiaeth a choedwigaeth er mwyn datblygu polisi biomas a defnydd tir integredig.

Y farchnad derfynol ar gyfer cnydau biomas lluosflwydd ar hyn o bryd yw eu llosgi mewn gorsafoedd pŵer sy’n cynhyrchu trydan. Wrth i’r DU drosglwyddo i garbon sero net, bydd rhagor o’r rhain yn cael technoleg dal carbon. Os yw’r carbon hwn wedyn i’w roi mewn storfa ddaearegol, bydd argaeledd y storfa hon yn effeithio ar leoliad gorsafoedd pŵer, ac yn ei dro ymhle y byddai orau i dyfu cnydau biomas lluosflwydd.

schematic of the carbon modelling undertaken in the project