Caiff Miscanthus a helyg ill dau eu plannu yn y gwanwyn, ac mae sicrhau dechrau da i’r planhigion yn allweddol i sicrhau’r proffidioldeb mwyaf posibl i’r ffermwr. Yn gyffredinol, plannir planhigion plygiau miscanthus o dan daen o domwellt er mwyn diogelu’r planhigyn rhag sychder a rhew. Mae helyg fel arfer yn cael ei blannu fel ffyn wedi’u torri o goesynnau segur 1 oed. Er mwyn lleihau’r gystadleuaeth o du chwyn yn y flwyddyn gyntaf neu ddwy o dwf, defnyddir chwynladdwyr yn aml, er bod peiriannau’n cael eu datblygu a allai chwynnu’n fecanyddol yn lle hynny. Byddwn yn tyfu lleiniau o Miscanthus a helyg ac yn profi 5 dull gwahanol ar gyfer sefydlu’r cnwd, er mwyn profi eu heffeithiolrwydd. Byddwn hefyd yn ymchwilio i effeithiau ychwanegion pridd fel bio-olosg.
![Willow coppice](https://pbc4ggr.org.uk/wp-content/uploads/sites/24/2021/09/D_Roth-Chiltern-2y-5_again.jpg)
![Planting experimental willow plots](https://pbc4ggr.org.uk/wp-content/uploads/sites/24/2021/09/E_Expt-Planting_smaller-scaled.jpg)
![Willow and Miscanthus trials](https://pbc4ggr.org.uk/wp-content/uploads/sites/24/2021/09/D_bsbec-aerial-2-2.jpg)