Nid yw technoleg yn digwydd heb gyd-destun. Mae llu o ffactorau yn dylanwadu ar ddewisiadau ffermwyr ynghylch beth i’w dyfu, megis eu hymdeimlad o hunaniaeth, diwylliant, a’u blaenoriaeth ar gyfer cynhyrchu bwyd. Fel rhan o PBC4GGR byddwn yn cyfweld â ffermwyr sydd eisoes yn tyfu cnydau biomas lluosflwydd, yn ogystal â ffermwyr nad ydynt yn tyfu’r cnydau, er mwyn i ni fedru deall cymhellion a chyfyngiadau’n well. Mae cnydau biomas lluosflwydd yn eistedd yn wahanol yn y dirwedd o’u cymharu â chnydau âr neu dir pori. Bydd angen cynnydd sylweddol yn faint o dir ffermydd yn y DU sydd wedi’i blannu â chnydau biomas lluosflwydd er mwyn bodloni ymrwymiadau’r DU sy’n gyfreithiol rwymol i newid yn yr hinsawdd. Ni fydd hyn yn newid trwyadl; rhagwelir mai tua 5% o dir amaethyddol fydd hyn erbyn 2050. Serch hynny, mae angen inni ddeall beth yw barn cymunedau gwledig am y newidiadau hyn mewn defnydd tir, er mwyn cynllunio’n well ble i blannu’r cnydau hyn yn y dyfodol ac i lywio polisi.