Dechreuodd prosiect PBC4GGR ym mis Mai 2021 ac fe’i harweinir gan yr Athro Iain Donnison ym Mhrifysgol Aberystwyth. Y partneriaid eraill yw Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig, Rothamsted Research, Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a Chymunedol (CCRI), a Phrifysgol Aberdeen.
Mae PBC4GGR yn un o grŵp o bum prosiect a ariennir gan UKRI sy’n ymchwilio i wahanol ddulliau i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer. Dulliau eraill yr ymchwilir iddynt yw coedwigaeth, adfer mawn, cyflymu hindreulio creigiau, a chynhyrchu bio-olosg.
Mae yna hefyd ganolfan cydlynu, sy’n cynnal ymchwil trosfwaol sy’n berthnasol i’r holl dechnolegau tynnu nwyon tŷ gwydr, a bydd y Ganolfan yn integreiddio canfyddiadau’r prosiectau er mwyn rhoi darlun cydgysylltiedig o sut y gall tynnu nwyon tŷ gwydr gyfrannu at amcanion carbon sero net y DU. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am PBC4GGR, neu os oes gennych gwestiynau penodol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen isod. Mae croeso i chi cysylltwch â ni yn Gymraeg.
Cysylltwch â ni