I sefydlogi tymheredd byd-eang, mae angen lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar frys ac yn llym ar draws pob sector o’r economi. Mae hyn yn gofyn am ymyriadau polisi a chamau gweithredu y gallwn eu cymryd fel unigolion. Fodd bynnag, mae rhai sectorau’n annhebygol o allu lleihau eu hallyriadau i sero, felly bydd angen i ni wrthbwyso’r allyriadau hynny drwy ddefnyddio technolegau tynnu nwyon tŷ gwydr (GGR). Un dechnoleg o’r fath yw ynni biomas gyda dal a storio carbon (sef BECCS).
Yn PBC4GGR rydym yn ymchwilio i’r potensial i blanhigion fel helyg a miscanthus gefnogi BECCS yn y Deyrnas Unedig. Byddwn yn dangos technegau sefydlu newydd sy’n gwneud y mwyaf o’r cynnyrch ar yr un pryd â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac yn rhoi’r diweddaraf ynghylch mesur y cyfle ar gyfer tynnu nwyon tŷ gwydr. Byddwn yn sefydlu’r amodau sydd eu hangen ar ffermwyr i’w tyfu a’r derbyniad cymdeithasol ehangach, gan ymchwilio i gostau, manteision a’r effeithiau ar gyfer gwasanaethau ecosystem a bioamrywiaeth. Ar y cyd â phrosiectau eraill tynnu nwyon tŷ gwydr a thrwy gael canolfan cydlynu, byddwn yn pennu graddfa briodol rhoi BECCS ar waith yn y DU o’i gymharu â dulliau eraill tynnu nwyon tŷ gwydr.