Mae’r graddau y gall cnydau biomas lluosflwydd gyfrannu at allyriadau carbon sero-net y DU yn seiliedig ar fesuriadau manwl o’r cylch carbon mewn caeau y plannwyd y cnydau ynddynt. Yn ystod y prosiect hwn, byddwn yn uniongyrchol yn cymharu ac yn dadansoddi’r cyfnewid nwy rhwng yr atmosffer, y planhigion a’r pridd mewn caeau sydd â’r ddau gnwd gan ddefnyddio techneg o’r enw troell cydamrywiannau (eddy covariance), a chymharu hyn â chaeau cyfagos o laswelltir parhaol a thir âr fel rheolydd.
Er bod cnydau biomas lluosflwydd fel arfer yn cynyddu faint o garbon sydd yn y pridd yn y tymor hir, fel arfer mae gostyngiad yng nghamau cyntaf paratoi’r tir ar gyfer plannu ac yn gynnar yn y cyfnod sefydlu cnydau. Byddwn yn mesur llif nwy ar gyfer amrywiaeth o dechnegau sefydlu gwahanol er mwyn deall sut y gellir lleihau hyn. Byddwn hefyd yn mesur effeithiau tymor hwy y cnydau hyn ar garbon pridd drwy ddadansoddi cyfansoddiad pridd o gaeau a blannwyd hyd at 20 mlynedd yn ôl mewn safleoedd ledled y DU. Mae faint o garbon y gall planhigyn ei gadw yn y ddaear yn amrywio yn ôl ystod o ffactorau. Byddwn yn ymchwilio i garbon islaw’r ddaear mewn nifer fawr o blanhigion Miscanthus gwahanol i weld a oes potensial i fridio mathau newydd sydd yn gallu cadw carbon yn y pridd yn well.