Mae cnydau biomas lluosflwydd yn addas iawn i’w plannu ar ffermydd fel rhan o systemau amaethyddol cymysg sy’n cynnwys glaswelltir neu gnydau âr; nid ydym yn disgwyl monoddiwylliannau a throsglwyddo ffermydd cyfan yn llwyr i helyg neu Miscanthus. Byddwn yn plannu caeau 7 hectar ‘nodweddiadol’ o bob cnwd gan ddefnyddio technegau sefydlu modern; helyg yng Ngholeg Myerscough ger Preston, a Miscanthus yng Ngholeg Bishop Burton ger Hull. Mae’r ddau Goleg wrthi’n addysgu’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ac yn cynnal ymweliadau rheolaidd i randdeiliaid ledled y diwydiant amaethyddol.


